top of page

Ymuno a'r clwb

Mae Cymdeithas Genweirwyr Dyffryn Ogwen gyda’r hawl i bysgota dwy ran o’r afon Ogwen, ac mae’r ddwy ran tua 2 filltir o hyd gyda pysgota o’r ddwy ochr. Yn ei chyfanrwydd mae’r afon Ogwen tua 7 milltir o hyd ac yn cynnig pysgota gwych am wniadau (sewin) gyda nifer dda o eogiaid a grilse. Ar gael hefyd mae pedwar llyn yn ogystal ac afonydd llai sydd yn llifo i’r llynoedd a’r afon Ogwen i gyd yn cynnwys brithyll brown gwyllt. Y llyn mwyaf yw llyn Ogwen sydd yn gorwedd ger priffordd yr A5 ac mae’n cael ei stocio yn rheolaidd yn ystod y tymor efo brithyll enfys. Yn ogystal a’r pysgota mae’r dyfroedd yng nghanol golygfeydd godidog Eryri ac mae amrywiaeth y pysgota yn her i unrhyw bysgotwr boed yn ddysgwr neu brofiadol. Mae’r afon Ogwen ar ei gorau pan mae mewn llif yn dilyn glaw ond ar amser arall mae’r llynoedd yn denu. Mae modd dal pysgod gyda amryw o wahanol ddulliau ond os yw’r pysgod yn profi’n anodd i’w dal mae’r pysgotwyr lleol yn aml yn cael llwyddiant trwy fod yn hyblyg a bod yn barod i newid tacteg a defnyddio modd wahanol o gynnig abwyd i’r pysgodyn.

Prisiau 2026

Oedolion                 £110
Pensiynwyr             £85
Pobl Ifanc (19–21)   £50
Ieuenctid (12–18)    £15
Plant (<12)                £10

ALLFEYDD TRWYDDEDAU
Spar Bethesda
Station Road
Bethesda LL57 3NE

Barbwr Ogwen
75 High Street
Bethesda, Bangor LL57 3AR

 

YMGHOLIADAU:
Sgotwrs@gmail.com



 

  • @Sgotwrsogwenfishing

©2019 by Cymdeithas Genweirwyr Dyffryn Ogwen. Proudly created with Wix.com

bottom of page