top of page

Ein Llynoedd

Mae gan y clwb pedwar llyn yn ogystal ac afonydd llai sydd yn llifo i’r llynoedd a’r afon Ogwen i gyd yn cynnwys brithyll brown gwyllt. Y llyn mwyaf yw llyn Ogwen sydd yn gorwedd ger priffordd yr A5 ac mae’n cael ei stocio yn rheolaidd yn ystod y tymor efo brithyll enfys. Yn ogystal a’r pysgota mae’r dyfroedd yng nghanol golygfeydd godidog Eryri ac mae amrywiaeth y pysgota yn her i unrhyw bysgotwr boed yn ddysgwr neu brofiadol. Mae’r afon Ogwen ar ei gorau pan mae mewn llif yn dilyn glaw ond ar amser arall mae’r llynoedd yn denu. Mae modd dal pysgod gyda amryw o wahanol ddulliau ond os yw’r pysgod yn profi’n anodd i’w dal mae’r pysgotwyr lleol yn aml yn cael llwyddiant trwy fod yn hyblyg a bod yn barod i newid tacteg a defnyddio modd wahanol o gynnig abwyd i’r pysgodyn

Llyn Ogwen

Llyn Ogwen – yn gorwedd wrth ochr yr A5 rhwng Tryfan a Pen yr Ole Wen a 310m uwch lefel y mor. Llyn hir cul tua 1.6km o hyd ac oddeutu 300-400m ar draws, nid yw’n dyfn iawn, tua 3-4m ar y mwyaf. Mae brithyll brown gwyllt naturiol i’w cael yma i fyny at 3/4lb ac mae’n cael ei stocio’n rheolaidd trwy’r tymor efo brithyll enfys tua 1-2lb yr un.

Mae mynediad at y glannau yn hawdd o ochr y lon ond mae modd cael mynediad at yr ochr draw trwy ddilyn y llwybr cyhoeddus rhwng Pont y Benglog ger yr argae hyd at fferm Tal Llyn Ogwen yn y pen dwyreiniol o’r llyn.

IMG_3433 (1).JPG

Llyn Idwal

Mae llyn Idwal yn gorwedd wrth droed y Garn a’r Glyder Fawr a 373m uwch lefel y mor, mae tua 800m o hyd a 300m ar draws ac yn eithaf bas o gwmpas y glannau. 

Medrwch gerdded o Fwthyn Ogwen ar hyd llwybr amlwg carregog tua 1km o hyd mewn rhyw 20 munud ac mae llwybr clir o gwmpas y llyn.

Brithyll brown gwyllt yn unig sydd ar gael yma i fyny at tua 1lb.

Llyn Bochlwyd

Llyn Bochlwyd – yn gorwedd o dan Tryfan a’r Glyder Fach a 555m uwch lefel y mor. Mae’n bosib cerdded ato trwy gychwyn o Fwthyn Ogwen ar y llwybr i gyfeiriad llyn Idwal ond ar ol tua 500m cymryd y llwybr i’r chwith ac anelu am yr afon sy’n dod lawr o’r llyn. Mae’n serth iawn wrth ochr yr afon ond cymerwch seibiant yma ac acw i werthfawrogi’r olygfa a gellir cyrraedd y llyn mewn 40-45 munud o’r lon.

Brithyll brown gwyllt yn unig sydd yma i fyny at tua 1/2lb ond maent yn bysgod cryf ac yn cwffio’n dda. Mae chwyn yn tyfu mewn rhannau o’r llyn ond mae digon o le clir i fedru pysgota. Mae cerdded o gwmpas y llyn yn eithaf anodd oherwydd nid oes llwybr clir ac mae tyfiant grug a llus yn drwchus a chreigiau go fawr yma ac acw.

Idwal.jpg
Bochlwyd.jpg

Ffynnon Lloer 

Ffynnon Lloer – hwn yw’r llyn uchaf sydd ganddom 673m uwch lefel y mor, llyn bychan tua 250 x 150m ond mae brithyll brown gwyllt bendigedig i’w cael yma i fyny at 1lb. Oherwydd ei fod mor fychan chwipio pluen yw’r unig ddull a ganiateir i bysgota’r llyn hwn.

Rhaid cychwyn cerdded o’r A5 ac anelu am fferm Tal Llyn Ogwen ac wedyn dilyn yr afon i fyny i’r llyn. Mae’r llwybr wedi ei farcio gyda postiau yma ac acw i’ch cadw ar y trywydd cywir a gellir cyrraedd y llyn mewn 45-60 munud.

lloersunny.jpg
bottom of page