Pysgota Afon Ogwen
Mae Cymdeithas Genweirwyr Dyffryn Ogwen gyda’r hawl i bysgota dwy ran o’r afon Ogwen, ac mae’r ddwy ran tua 2 filltir o hyd gyda pysgota o’r ddwy ochr. Yn ei chyfanrwydd mae’r afon Ogwen tua 7 milltir o hyd ac yn cynnig pysgota gwych am wniadau (sewin) gyda nifer dda o eogiaid a grilse ac brithyll gwyllt.
​
Mae’r afon yn cychwyn yn Llyn Ogwen ac yn disgyn yn gyflym i lawr Rhaeadrau Ogwen sydd yn llawn man byllau, dyma’r unig le ar yr afon y mae’r brithyll brown gwyllt yn ei gael iddo ei hun, yng ngweddill y dyfroedd mae ganddo eogiaid a gwniadau yn gwmpeini.
Wedi cyrraedd llawr y dyffryn mae taith yr afon yn arafu yn sylweddol, yn lleol gelwir yr ardal yma ‘Y Marddwr’. Mae’r afon yn troelli ei ffordd i lawr llawr y dyffryn gyda rhai pyllau dyfnion ble bydd yr eogiaid a’r gwniadau yn llechu i ddisgwyl eu hamser i gladdu yn y greuan glan ar wely’r brif afon ac eraill yn mentro i’r nifer o nentydd bychain sydd yn llifo iddi.
Daw rhan gyntaf dyfroedd y Gymdeithas ar yr afon i ben ble y llifa’r afon dan Bont Ty’n Y Maes. Er mwyn rhoi chware teg i’r eogiaid ar gwniadau sydd wedi brwydro yn galed i gyrraedd y rhan yma o’r afon ag sydd wedi bod ynddi ers rhai misoedd gwaherddir pysgota yn y rhan yma o’r afon ar ôl Medi 30.
Mae ail ran y dyfroedd yn cychwyn o Bont Y Twr islaw maes carafannau Ogwen Bank, yma mae’r afon yn gwau ei ffordd heibio i’r cae peldroed a phentref Bethesda gyda chymysgedd da o byllau dyfnion a rhediadau cyflym.
Wrth iddi adael Bethesda tu cefn iddi mae yn arafu ei thaith rhyw ychydig wrth basio heibio Dol Ddafydd a Dol Goch cyn cyrraedd Pont Brynbela.
O fan hyn i Bont ‘Halfway’ mae rhai o byllau gorau a mwyaf poblogaidd yr afon, yma hefyd mae’r llwybrau garwaf (does ‘na ddim byd yn hawdd yn yr hen fyd ma’) Daw dyfroedd y Gymdeithas i ben fel y diflana’r afon dan Bont ‘Halfway’.
Rhan Isaf Afon Ogwen
Pyllau poblogaidd Eog
-
LLyn Gro
-
Cafn
-
Llyn Ddol
-
Llyn Weiren
-
Llyn Dderwen
-
Llyn dan bont
-
Llyn Dan Cob
-
Llyn wern
-
Llyn Cheini
-
Llyn Felin
-
Llyn Caffi
-
Llyn Cerrig Melyn
-
Llyn Douglas
-
Llyn Caseg
-
Llyn Gornel
Rhan Uchaf Afon Ogwen