Rheolau | Cymdeithas Genweirwyr Dyffryn Ogwen
top of page

Rheolau

tabl tymor.jpg

1  Y dyfroedd a neilltuir ar gyfer pysgota fydd llynnoedd Ogwen, Bochlwyd, Idwal a Ffynnon Lloer.  Hefyd y rhannau hynny o’r dyfroedd o Bont y Pandy, Halfway hyd at Bontwr a Phont Ceunant, TÅ·’n y Maes hyd Llyn Ogwen ynghyd â’r holl ddyfroedd a’r ffrydiau sy’n ymarllwys i’r rhannau hyn o’r afon.

 

2  Lleiafswm mesurau'r pysgod a ganiateir eu dal a’u cadw, yn mesur o’r trwyn i fforch y gynffon, yw fel â chanlyn:-

 Brithyll     – Wyth modfedd  (200 mm)

 Gwniadau – Lleiafswm 10 modfedd - Uchafswm 23 modfedd (250mm-600mm)

 Eog           – Rhaid rhyddhau pob eog cyn gynted â phosib heb niwed

 

3  Mae bachu pysgodyn yn anghyfreithlon ar fwriad yn drosedd.

Os yw pysgodyn wedi ei fachu yn anghyfreithlon yna dylid ei ryddhau  yn ôl i’r dyfroedd yn syth gan achosi cyn lleied o niwed iddo â phosib.

4  Ni chaniateir i bysgotwr bysgota mewn pwll am fwy nag ugain munud wedi i bysgotwr arall ddatgan dymuniad i bysgota’r pwll hwnnw ac sy’n aros gerllaw nes bydd yr amser hynny wedi dod i ben.

 

5  Gwaherddir defnyddio pwysau o fewn 18 modfedd (450 mm) i’r bachyn.

 

6  Gwaherddir sbinio o unrhyw fath yn ystod oriau’r nos.

 

7  Cyfyngir Ffynnon Lloer i bysgota â phluen yn unig. Gwaherddir defnyddio fflôt ac unrhyw offer sbinio ar Ffynnon Lloer ac afon Lloer.

 

8  Ni chaniateir defnyddio cnonod a bwydo’r pysgod yn y llynnoedd. Caniateir pysgota cnonyn gyda phluen yn unig ar yr afonydd. Cyfyngir hyn i’r oriau rhwng un awr cyn machlud ac un awr ar ôl codiad yr haul.

 

9  Dim ond 4 pysgodyn i’w dal a’u cadw mewn un diwrnod yn Llyn Ogwen. Pluen yn unig ar ôl cadw pedwar, rhaid dychwelyd pob pysgod. Bydd gan giperiaid y Gymdeithas yr hawl i archwilio bagiau a char yr aelodau ac i anfon o lan y dyfroedd unrhyw un sy’n gwrthod ac fe ddiddymir ei docyn aelodaeth.

 

10  Gwaherddir defnyddio fflôt tiwb ar Afon Ogwen a Ffynnon Lloer .

 

11   Rhaid i bob pysgotwr ddangos ei drwydded a thocyn aelodaeth pan ofynnir iddo gan aelod sy’n gallu dangos ei aelodaeth neu awdurdod arall, cipar y Gymdeithas neu gipar Cyfoeth Naturiol Cymru.  Mae gan y personau hyn hawl i anfon o gyffiniau’r dyfroedd unrhyw un sy’n gwrthod ac fe ddiddymir ei docyn aelodaeth.

 

12  Nid yw’r Gymdeithas yn gyfrifol am unrhyw ddamwain, niwed neu anhap i bysgotwr wrth bysgota neu wrth ddefnyddio llwybrau, cychod a chamfeydd yng nghyffiniau’r afonydd a’r llynnoedd.

 

13  Rhaid i’r pysgotwr barchu hawliau’r tenantiaid a’r tirfeddianwyr trwy gadw at lwybrau penodedig ger glannau’r dyfroedd a gofalu bod pob giât yn cael ei chau’n ddiogel ar ôl ei defnyddio.  Ni chaniateir i bysgotwyr fynd â chŵn gyda hwy.  Rhaid peidio malurio camfeydd na pharcio moduron ar dir neb heb yn gyntaf gael caniatâd y perchennog.

 

14  Rhaid mynd â phob ysbwriel oddi wrth lannau’r dyfroedd.

 

 

15  Gofynnir i bob aelod ddarllen a dilyn y rheolau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r cychod ar Llyn Ogwen.  Mae’r rhain wedi eu harddangos yn y cwt cwch.

 

16  Gwaherddir pysgota yn oriau o dywyllwch ar bob Llyn

 

17  Gwaherddi’r gwerthu unrhyw bysgod a ddaliwyd yn nyfroedd y Gymdeithas.

 

18  Caniateir i unigolyn sydd ddim yn aelodau roi cymorth i aelod o’r Gymdeithas gyda'u pysgota trwy ganiatâd y Pwyllgor Gwaith yn unig.

 

19  Disgwylir i unigolion ymddwyn mewn ffordd gyfrifol yng nghyffiniau dyfroedd y Gymdeithas. Ni chaniateir i aelod amharu ar bysgod neu bysgotwyr mewn unrhyw ffordd.

20  Os bydd i aelod dorri un o reolau'r Gymdeithas gellir diddymu’r aelodaeth ac o bosib dwyn achos cyfreithiol yn erbyn yr unigolyn a rhoddir enw’r unigolyn ar Restr Atal Genweirwyr Gwynedd. Ni fydd gan yr unigolyn hawl i ail ymaelodi â’r Gymdeithas am gyfnod a bennir gan y Pwyllgor. Wedi i’r cyfnod yma ddod i ben bydd rhaid i’r unigolyn wneud cais ysgrifenedig am ganiatâd i ail ymaelodi â’r Gymdeithas. Bydd hawl gan y Gymdeithas i wrthod y cais hwnnw.

 

21  Dim pysgota ar ôl 30 Medi ar y rhan hynny o’r afon Ogwen o Pont Ceunant, TÅ·’n y Maes hyd at Llyn Ogwen.

 

22  Ni chaniateir defnyddio bachyn trebl mwy na maint 12 gyda ‘PowerBait’. Ar ôl dal 4 pysgodyn rhai pysgota gyda phluan a dychwelyd pob pysgodyn.

 

Os gwelir unrhyw achos o lygredd neu herwhela ffoniwch CNC ar 0800 807060

bottom of page